Cymdeithas yr Iaith yn 50
S4C 10/07/2012 20:25-21:30
Gwion Lewis, y bargyfreithiwr o Ynys Môn, sydd yn cyflwyno rhaglen ddogfen arbennig yn pwyso a mesur hanner canrif gyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. O'r brotest dorfol gyntaf ar Bont Trefechan, Aberystwyth, i ymgyrchoedd tanllyd yr arwyddion ffyrdd dwyieithog a'r ymgyrch dros sianel deledu Gymraeg, mae'r Gymdeithas, ers ei chychwyn, wedi chwarae rhan allweddol yn llywio hunaniaeth a diwylliant Cymru. Carcharwyd dros 200 o bobl a bu miloedd gerbron y llysoedd yn sgil yr ymgyrchoedd brwd i sicrhau statws i'r iaith Gymraeg a oedd, cyn bodolaeth y Gymdeithas, yn prysur ddirywio. Bydd Gwion hefyd yn edrych ar sut mae Cymdeithas yr Iaith wedi addasu yn sgil y newidiadau cymdeithasol mawr ers ei sefydlu nôl ym 1962.
Anglesey barrister Gwion Lewis looks back at the first 50 years of the Welsh Language Society, exploring how its work has contributed to Welsh identity and culture. He recalls the organisation's origins as a protest movement, including its 1963 demonstration on Aberystwyth's Trefechan bridge, examines the legal challenges it has faced during its history and discovers how it has adapted to social and economic changes through the decades.

















